Dolenni allanol i’ch helpu i feddwl am Gynllunio Gofl o Flaen Llaw
Weithiau gall fod yn anodd meddwl am y pethau yma. Cymerwch eich amser ac edrychwch ar y dolenni – fe all rhain eich helpu i feddwl am yr hyn sydd bwysicaf i chi
Mae Healthtalk.org yn cynnig gwybodaeth dibynadwy, rhad ac am ddim am faterion iechyd, trwy rannu profiadau pobl go iawn.
FINK cards provides a set of thought provoking questions on
Mae FINK cards yn darparu set o gwestiynau ar gardiau sydd yn eich arwain i feddwl am help i drafod cynlluniau gofal diwedd oes efo’ch teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Nodwch os gwelwch yn dda bod rhaid talu am y cardiau yma.
Macmillan Cancer Support Gwefan tu hwnt o gynhwysfawr am ofal diwedd oes ar gyfer cleifion a gofalwyr, sydd yn cynnwys gofal galar. Mae’n werth cymeryd amser i edrych arni a’i thrafod efo’ch teulu a’ch ffrindiau.
Macmillan Your Life Dyma lyfryn ‘Your Choices Booklet Overview of Advance Care Planning’
Marie Curie Gwefan hynod gynhwysfawr am ofal diwedd oes ar gyfer cleifion a gofalwyr sydd yn cynnwys gofal galar. Mae’n werth cymryd eich amser i edrych arni a’i thrafod efo’ch teulu a’ch ffrindiau.
NHS Choices Gwefan hawdd cyrraedd ati a’i darllen gan y GIG sydd yn cynnwys gwybodaeth am beth yn union yw cynllunio gofal o flaen llaw a dolenni i ragor o wybodaeth.
Planning Ahead: Making Choices Mae ‘Compassion in Dying’ yn cefnogi y canlynol sef y defnydd o gynllunio gofal o flaen llaw, Pŵer Atwrnai Parhaus, creu ewyllys, cynllunio’ch angladd a galar.
“Mae gennym i gyd ein breuddwydion personol, ein gobeithion, dymuniadau a’n dyheadau mewn bywyd. Er hyn, pan mae’r cwestiynau yma yn codi: faint o baratoi ydych chi wedi ei wneud er mwyn sicrhau bod popeth mewn trefn? Ydych chi wedi trosglwyddo atgofion gwerthfawr? Ydych chi wedi dweud eich dymuniadau wrth y rhai fydd yn rhoi trefn ar eich pethau wedi i chi fynd neu pan na fyddwch yn gallu penderfynu drosoch eich hun? Faint ohonom fydd yn gallu dweud ‘Popeth mewn trefn’?
Ffynhonnell: Dying Matters
Stori Norman
Fy enw yw Norman McNamara a phan ond yn 50 oed cefais wybod fy mod yn dioddef o Alzheimer cynnar. Ers hynny, rwyf wedi cysegru fy mywyd i godi ymwybyddiaeth o’r salwch melltigedig yma, ac rwy’n sylweddoli os na byddyn nhw’n darganfod triniaeth, rwy’n marw, mae mor syml a hynny. Dyma paham rwy’n credu ei bod mor bwysig i fod yn rhan o’r penderfyniadau am fy nhriniaeth ac i barchu fy nymuniadau pan daw’r amser i ffarwelio. ‘Doedd y cyfarfod efo’n nheulu ddim yn hawdd, ond ar ôl llawer o ddagrau a sawl cofleidiad, roedd pawb wedi llwyddo i gytuno ar gynllun. Roedd yr wythnosau nesaf yn annisgwyl; roedd fel petai pwysau mawr wedi cael ei godi oddi ar ein hysgwyddau ac roedd y teulu a minnau yn llawer tawelach ein meddwl ynglŷn â’r dyfodol. Cododd straen anferthol oddi ar ysgwyddau fy ngwraig yn benodol, a rwan rydym yn wynebu un dydd ar y tro.
Ffynhonnell: Dying Matters
Mae rhagor o adnoddau: ar gael yma