Daw’r wybodaeth sydd wedi ei restru yma o rai o’r gwefannau lleol a chenedlaethol fydd, gobeithio, o ddiddordeb neu o help i chi. Dyma’r gwefannau y mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, sydd yn gwybod am gynllunio gofal o flawn llaw, yn eu defnyddio.
Nid yw’n hawdd darllen neu siarad am gynllunio gofal o flaen llaw neu farwolaeth bob tro. Cymerwch eich amser. ‘Does dim rhaid i chi wneud y cyfan yr un pryd. Efallai y byddwch eisiau oedi neu neidio dros peth o’r wybodaeth a’r adnoddau, neu aros a thrafod efo’ch teulu a’ch cyfeillion.
Mae cysylltiadau gwefannau cyffredinol yn cael eu rhestru yma yn nhrefn yr wyddor.
Mae cysylltiadau ar gyfer pynciau penodol yn cael eu rhestru yn yr adran ‘penodol’.
Advance Decisions Assistance [Defnyddiol ar gyfer trafod a chofnodi]
Gwefan ddefnyddiol gyda gwybodaeth gynhwysfawr am Benderfyniad o Flaen Llaw i Wrthod Triniaeth. Mae’r cyswllt i’r brif wefan yma
Age UK [defnyddiol ar gyfer ystyried, trafod, penderfynu, cofnodi a rhannu]
Gwefan ddefnyddiol gan Age UK sef elusen mwyaf Prydain er mwyn helpu pawb i wneud y gorau o flynyddoedd diweddarach oes. Mae’n cynnwys dogfennau defnyddiol i’w llawrlwytho a chysylltiadau ar gyfer safleoedd eraill.
- Trosolwg o faterion diwedd oes ar gael yma
- Gwybodaeth am ddiwedd oes ar gyfer y gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yma
Cymdeithas Alzheimer [defnyddiol ar gyfer ystyried, trafod, penderfynu, cofnodi a rhannu]
Gwefan ddefnyddiol gyda gwybodaeth gynhwysfawr am dementia ag Alzheimer yn ogystal â gwybodaeth am Ddatganiadau o Flaen Llaw a Phenderfyniadau o Flaen Llaw i Wrthod Triniaeth
- Gwybodaeth am Benderfyniadau o Flaen Llaw ( i Wrthod Triniaeth) yma
Ambitions for End of Life Care (defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod a phenderfynu)
Gwefan genedlaethol gyda adnoddau diwedd oes sydd yn cael ei ddiweddaru yn rheolaidd. Mae’n cynnwys gwybodaeth y gallwch ei lawrlwytho yma
British Heart Foundation (defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod a phenderfynu)
Elusen cenedlaethol am glefyd y galon sydd yn cynnwys llyfrynnau a gwybodaeth ddefnyddiol. Mae cyswllt i’r erthygl am farw a marwolaeth yma
Cancer Research UK (defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod a phenderfynu)
Gwybodaeth am beth yn union yw cynllunio gofal o flaen llaw a’r hyn mae yn ei olygu yn ogystal â beth sydd yn digwydd wrth agosau at ddiwedd oes ar gael yma
Citizen Advice Bureau (defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod a phenderfynu)
Cyngor annibynnol cyfrinachol a di-duedd yn rhad ac am ddim i bawb am hawliau a chyfrifoldebau. Mae CAB yn gwerthfawrogi amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu. Mae cyswllt i’w safle Cymreig yma
Compassion in Dying (defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod, penderfynu, cofnodi a rhannu)
Mae Compassion in Dying yn cefnogi’r deunydd o’r hawliau cyfreithiol cyfredol. Nodwch os gwelwch yn dda nad yw yn rhan o ymgyrch Dignity in Dying am gymorth i farw i oedolion meddyliol alluog, sydd yn diodde afiechyd terfynol ac o fewn chwe mis i ddiwedd oes. Mae’r prif gyswllt i’r wefan yma
Mae’r wefan yn cynnwys ystod o wybodaeth sydd yn cynnwys:
- Cynllunio o Flaen Llaw: Gwneud Dewisiadau – mae’r cyswllt yma
- Cynlllunio o flaen llaw ar gyfer y gymuned lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol – mae’r cyswllt yma
Dying Matters (defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod, penderfynu, cofnodi a rhannu)
Cyngrhair o tua 32,000 o aelodau o bob cwr o Gymru a Lloegr yw Dying Matters sydd yn ceisio helpu pobl i drafod marw, marwolaeth a phrofedigaeth, ac i gynllunio ar gyfer diwedd oes. Mae’r cyswllt ar gyfer y brif wefan yma
Mae ganddo nifer o adnoddau megis:
- Find Me Help: wedi ei greu gan Dying Matters a’i ariannu gan Macmillan Cancer Support, mae Find Me Help yn gyfeirlyfr cynhwysfawr o wasanaethau ar gyfer pobl yn ystod blynyddoedd olaf eu bywyd a’u gofalwyr. Dewch o hyd i’r gwasanaethau cefnogol yr ydych eu hangen yn eich ardal yn sydyn ac yn hawdd.
- Planning for Your Future Care: mae’r cyfeirlyfr poblogaidd yn amlinellu y gwahanol opsiynau sydd ar gael i bobl wrth iddyn nhw gynllunio eu gofal diwedd oed.
- Advance care planning for volunteers: mae’r rhaglen hyfforddi yma, gafodd ei chreu gan Dying Matters ac eraill yn paratoi gwirfoddolwyr ar gyfer rhannu gwybodaeth am gynllunio gofal o flaen llaw (beth mae’n ei olygu, sut mae gwneud hyn oll) efo pobl yn eu cymunedau lleol neu mannau gwaith. Mae’n addas ar gyfer grwpiau cymunedol, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, grwpiau pensiynwyr a rhai grwpiau cyffelyb eraill.
Cardiau FINK [Defnyddiol ar gyfer ystyried a thrafod]
Mae’r cardiau yn darparu cyfres o gwestiynau sydd yn procio’r meddwl er mwyn helpu i drafod cynlluniau diwedd oes gyda’r teulu neu weithwyr iechyd a gofal proffesiynol. Nodwch bod tâl yn cael ei godi am y cardiau yma. Gellir dod o hyd i’r cardiau yma.
Ffrwamwaith Safonnau Aur [Defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod penderfynu a chofnodi]
Cynnwys ‘Dogfen Meddwl O Flaen Llaw’ (math o Ddatganiad o Flaen Llaw) a gellir cysylltu efo’r fframwaith yma
Healthtalk Org [Defnyddiol ar gyfer meddwl a thrafod]
Darparu gwybodaeth dibynadwy, rhad ac am ddim am faterion iechyd trwy rannu profiadau go iawn pobl. Mae yna fideos defnyddiol yn dangos pobl yn siarad am fyw gyda marwolaeth yn ogystal â gweithredu dulliau paratoi cynlluniau gofal o flaen llaw fel Penderfyniad o Flaen Llaw i Wrthod Triniaeth. Cewch hyd i drosolwg a chysylltiadau yma
Macmillan Cancer Support [Defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod, penderfynu, cofnodi a rhannu]
Gwefan tu hwnt o gynhwysfawr, wedi ei hysgrifennu gan elusen genedlaethol sydd yn cynnig gwybodaeth ymarferol ynglŷn â diwedd oes gan gynnwys cynllunio o flaen llaw. Ceir hefyd rhagor o wybodaeth am Ddatganiadau o Flaen Llaw, Penderfyniad o Flaen Llaw i Wrthod Triniaeth, Pŵer Atwrnai Parhaol, rhoi organau a gwybodaeth ddefnyddiol arall. Dechreuwch yma
Cymerwch eich amser i chwilio trwy’r wefan gan fod yma gyfoeth o wybodaeth e.e.
- Macmillan Your Life: Your Choices Booklet, Trosolwg o Gynllunio o Flaen Llaw – i’w gael yma
- Macmillan Advance Care Planning Check List – i’w gael yma
Marie Curie [Defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod, penderfynu, cofnodi a rhannu]
Gwefan tu hwnt o gynhwysfawr am ofal diwedd oes ar gyfer cleifion a gofalwyr, gan gynnwys gofal profedigaeth, Mae’n werth cymeryd amser i chwilio’r wefan a thrafod efo’ch teulu a’ch ffrindiau. Mae gwybodaeth ar gyfer cynllunio o flaen llaw i’w gael yma
Motor Neurone Disease Association: Planning Ahead [Defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod, penderfynu, cofnodi a rhannu]
Cyfres o adnoddau tu hwnt o gynhwysfawr am gynllunio ar gyfer diwedd oes a chynllunio gofal o flaen llaw ar gyfer pobl efo’r clefyd Motor Neurone gan gynnwys cynllunio o flaen llaw a llyfryn ar ddiwedd oes
MIND [Defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod, penderfynu, cofnodi a rhannu]
Gwybodaeth helaeth am y Ddeddf Capasiti Meddyliol (2005) a sut y gall effeithio arnoch pan rydych yn cynllunio o flaen llaw. Esiamplau yn cynnwys Buddiannau Gorau
National Council for Palliative Care: Planning for your future care [Defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod a phenderfynu]
Mdae’r llyfryn yn cynnig arweiniad gam wrth gam i’r broses o gynllunio o flaen llaw, gyda’r bwriad o alluogi’r rhai sydd yn meddwl am ganlyniadau bod yn ddifrifol wael neu anabl i gofnodi eu blaenoriaethau a’u dymuniadau am ofal a thriniaeth yn y dyfodol. Mae’n egluro termau fel ‘Pŵer Atwrnai Parhaol’ gyda esiamplau atsudiaethau achos defnyddiol ac yn nodi’r broses o gynllunio o gychwyn y sgwrs i adnabod dymuniadau yma
Gall yr uchod gael ei lawr lwytho efo cyhoeddiadau defnyddiol eraill am gynllunio gofal o flaen llaw yma
MS Society: End of Life Care [Defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod a phenderfynu]
Ceir llyfryn gwybodaeth ddefnyddiol am ofal diwedd oes, gan gynnwys cynllunio gofal o flaen llaw yma
My Decisions [Defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod, penderfynu, cofnodi a rhannu]
Dyma wefan manwl iawn (sydd yn gysylltiedig â Compassion in Dying) ble y gellir llenwi Datganiad o Flaen Llaw neu Penderfyniad o Flaen Llaw i Wrthod Triniaeth ar lein. Mae’r ffurflenni yn cynnig esiamplau cynhwysfawr o pa bryd y buasech yn dymuno cwblhau unrhyw un o’r ffurflenni. Efallai y buasai yn ddefnyddiol i chi drafod yr esiamplau yma efo e.e. eich meddyg, nyrs neu weithiwr cymdeithasol er mwyn ystyried yr oll o’r termau a chanlyniadau eich penderfyniadau. Mae’r cyswllt i’r brif wefan yma
NHS Choices [Defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod, penderfynu. cofnodi a rhannu]
Gwefan hawdd ei chyrraedd, hawdd ei darllen oddi wrth y GIG yn cynnwys gwybodaeth am beth yw cynllunio gofal o flaen llaw a chysylltiadau i ragor o wybodaeth yma
Paul Sartori Foundation – Mae’r Ymddiriedolaeth yn darparu gofal hosbis yn Sir Benfro. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am gynllunio gofal o flaen llaw, gan gynnwys esiamplau i chi eu gweld. Mae’n cynnwys cysylltiadau i adnoddau eraill gan gynnwys y llyfryn gwybodaeth ‘Planning for your future care’
Mae’r cyswllt i’r brif wefan yma yna edrychwch ar yr adran ‘Our Services’ a dewis ‘Advance Care Planning’
Recommended Summary Plan for Emergency Care and Treatment (ReSPECT) – Mae’r broses ReSPECT yn creu argymhelliad personol am eich gofal clinigol mewn sefyllfa o argyfwng pan nad ydych yn gallu creu penderfyniadau na mynegi eich dymuniadau. Gall ReSPECT fod yn rhan o broses ehangach o gynllunio gofal o flaen llaw neu rhagflaenorol.
Mae’n darparu crynodeb o argymhellion i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol all ymateb i achos brys er mwyn eu helpu i wneud penderfyniadau yn syth am ofal a thriniaeth y person yna. Gallwch lawrlwytho rhagor o wybodaeth am y broses ReSPECT isod. Unwaith y mae ReSPECT wedi cael ei fabwysiadu a’i gyflwyno yn eich ardal chi, gall eich tîm gofal iechyd roi rhagor o gyngor ac arweiniad i chi.
Mae’r cyswllt i’r brif wefan yma
St Mungos End of Life Information for Homeless People [Defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod, penderfnu, cofnodi a rhannu]
Gwybodaeth am Ddiwedd Oes a Chynllunio Gofal o Flaen Llaw gan elusen St Mungos i’r digartref yn Llundain ynghŷd â chyfeirlyfr ar y cyd efo Marie Curie.
Adnoddau cyffredinol ar gael yma
Gwybodaeth benodol am ddiwedd oes ar gyfer y rhai sydd yn ddigartref ar gael yma
Sue Ryder [Defnyddiol ar gyfer meddwl, trafod a phenderfynu)
Gwybodaeth a chyngor am gynllunio o flaen llaw a chynllunio gofal o flaen llaw, Pŵer Atwrnai Parhaus, ysgrifennu ewyllys, cynllunio eich angladd a phrofedigaeth ar gael yma
Pobl Ifanc a Chynlluniau Gofal o Flaen Llaw – Cymru
Edrychwch ar ‘Cynlluniau Gofal o Flaen Llaw ar gyfer Pobl Ifanc’ er mwyn cael gwybodaeth am yr oll sydd ar gael yng Nghymru.http://advancecareplan.org.uk/cymru/young-people/