Cyfrannu  View this website in English

Advance Care Plan

Menu
  • Beth yw Cynllun Gofal o Flaen Llaw?
    • Eich taith
      • Meddwl
      • Trafod
      • Cofnodi
      • Adolygu
    • Chwalwr Jargon
    • Cysylltu
  • Adnoddau
    • Llyfrgell Fidio
    • Pasbort Cynllun Gofal o Flaen Llaw
    • Profiadau
      • Profiadau Joy
      • Profiadau Chris
    • Templedi
    • Cynlluniau Gofal o Flaen Llaw a phobl ifanc
    • Cyfeiriadur gwefannau allanol
      • Cyffredinol
      • Penodol
  • Cwestiynau Aml am Gynllun Gofal o Flaen Llaw
    • Cyffredinol
    • Gwrthod triniaeth
    • Cofnodi
    • Cyfreithiol

Beth yw Cynllunio Gofal o Flaen Llaw a Chynllun Gofal o Flaen Llaw?

Cynllunio gofal o flaen llaw yw’r modd i chi feddwl, trafod, penderfynu, cofnodi a rhannu beth sydd bwysicaf i chi ar ddiwedd eich oes.

Gall hyn gynnwys sut ofal y buasech yn ei hoffi, pa driniaethau na fyddwch yn eu dymuno yn y dyfodol, ble yr hoffech farw ac unrhyw beth arall sydd yn bwysig i chi.

Mae’r fidio yma yn egluro beth all cynllunio gofal o flaen llaw ei gynnwys.

Gwyddom o beth mae pobl yn ei ddweud wrthym eich bod yn fwy tebygol o gael y gofal yr ydych yn ei ddymuno am fod eraill yn gwybod beth yw eich dymuniadau a’ch dewisiadau. Gwyddom hefyd bod eich teulu a’ch ffrindiau yn gwerthfawrogi gwybod am eich dymuniadau a’ch dewisiadau o flaen llaw.

Ynglyn â Chynllunio Gofal o Flaen Llaw

  • Mae’n golygu meddwl am a thrafod diwedd oes
  • Mae’n golygu rhannu eich dymuniadau a’ch penderfyniadau
  • Mae’n golygu gofalu am eich hun a’r rhai sydd yn annwyl i chi

 

Trwy Gynllunio Gofal o Flaen Llaw

  • Gallwch feddwl am a thrafod yr hyn sydd yn bwysig i chi
  • Gallwch rannu eich dymuniadau a’ch dewisiadau am eich gofal
  • Bydd eich teulu, a gweithwyr iechyd a gofalwyr proffesiynol yn gallu gweithredu yn ôl eich dymuniadau a’ch dewisiadau

 

Ar gyfer pwy mae Cynllunio Gofal o Flaen Llaw?

Anyone! It is a voluntary way to help you think about, prepare and plan for the end of life.

Your end of life might be years, months, weeks or days away, but many people find it helpful to think about advance care planning sooner rather than later. It can help you discuss and decide what is most important to you as well as share your thinking with others.

Beth mae Cynllunio Gofal o Flaen Llaw yn ei olygu?

Yn bennaf oll mae’n golygu sgwrsio, er mwyn i chi allu meddwl a rhannu eich dymuniadau a’ch dewisiadau. Gelwir hyn yn Gynllun Gofal o Flaen Llaw weithiau. Bydd ei rannu efo’ch teulu, eich ffrindiau a gweithwyr iechyd a gofal yn eu galluogi i wybod yn iawn beth yr ydych yn dymuno iddyn nhw ei wneud yn y dyfodol.

 

Gall Cynlluniau Gofal o Flaen Llaw gwmpasu’r oll neu tri o’r isod:

  • Datganiad o Flaen Llaw: ffordd i chi ysgrifennu i lawr yr hyn sydd bwysicaf i chi er mwyn i bobl wybod am eich dymuniadau a’ch dewisiadau gofal
  • Penderfyniad o Flaen Llaw i Wrthod Triniaeth: dull ffurfiol i chi ysgrifennu a rhannu unrhyw benderfyniadau na fyddwch yn eu dymuno yn y dyfodol.
  • Pŵer Atwrnai Parhaol (PAP): unigolyn / unigolion sydd wedi ei / eu henwi gennych chi i siarad ar eich rhan. Mae dau fath o bŵer; ‘Iechyd a Llês ( i siarad ar eich rhan dim ond os na allwch wneud hynny eich hun ar y pryd ac ‘Eiddo a Materion Personol’ (i siarad drosoch o’r funud y byddwch yn eu hadwurdodi i wneud hynny)

 

Gall Cynllunio Gofal o Flaen Llaw hefyd olygu materion eraill fel:

  • Peidiwch â Cheisio Adfywio y Galon a’r Ysgyfaint (PCAGY): penderfyniad i beidio ail gychwyn eich calon os y bydd yn rhoi’r gorau i guro. Caiff y penderfyniad ei wneud oherwydd credir na fydd yn llwyddianus neu mai nid dyma eich dymuniad.
  • Er Lles: Y broses o benderfynu ar eich rhan os nad ydych yn gallu cyfrannu i’r broses eich hun. Gall gweithrediadau fel creu datganiadau o flaen llaw, penderfynu o flaen llaw i wrthod triniaethau a chreu pŵer atwrnai parhaol fod o gymorth mawr i ddeall beth yw eich dymuniadau os na allwch chi fynegi hynny eich hun.

Beth yw Cynllun Gofal o Flaen Llaw?


Cliciwch yma i ymweld â’n llyfrgell fidio Cynllun Gofal o Flaen Llaw

Partneriaeth ar draws Cymru a Lloegr


Daeth GIG Cymru, y Cyngor Cenedlaethol dros Ofal Lliniarol, sydd yn cynnal Dying Matters a Byw Nawr, at ei gilydd efo Hosbis y DU er mwyn tynnu ar arbenigedd ym mhob cwr o Brydain a thu hwnt er mwyn creu’r wefan yma.

Dechreuwch eich siwrne i greu Cynllun Gofal o Flaen Llaw

Cliciwch yma i gychwyn ar eich taith i greu Cynllun Gofal o Flaen Llaw
About Byw Nawr


MAE’R SAFLE YMA YN FFRWYTH ARBENIGEDD GIG CYMRU, Y CYNGOR CENEDLAETHOL DROS OFAL LLINIAROL, HOSBIS Y DU YN OGYSTAL Â SAWL SEFYDLIAD ARALL YM MHRYDAIN ER MWYN EICH HELPU I GYCHWYN MEDDWL AM EICH CYNLLUN GOFAL O FLAEN LLAW .
Advance Care Plan Support
  • Home
  • Llyfrgell Fidio
  • Y daith i Gynllunio Cynllun Gofal o Flaen Llaw
  • Adnoddau
  • Profiadau
  • Pasbort Gofal o Flaen Llaw
  • Chwalwr Jargon
  • Beth yw Cynllun Gofal o Flaen Llaw?
Byw Nawr Twitter
Byw Nawr Tweets
© Hawlfraint Byw Nawr 2016 Cedwir Pob Hawl. Nid yw CCDOLL/Dying Matters yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau trydydd person