Yn y fidio yma mae Joy Ross yn trafod cwblhau ei Chynllun Gofal o Flaen Llaw efo Sophie Thomas o Sefydliad Paul Sartori yn Aberdaugleddau.
Mae Joy wedi gwirfoddoli efo Sefydliad Paul Sartori ers rhyw 10 mlynedd. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio yn un o siopau’r elusen yn ogystal â gwirfoddoli efo’u prosiect Cynllun Gofal o Flaen Llaw. Mae ei diddordebau yn cynnwys gwleidyddiaeth, garddio, cerdded ag ysgrifennu creadigol.
“Rwy’n ceisio bod yn athronyddol am fywyd a marwolaeth,” meddai Joy “Rwy’n credu y dylwn wneud yn fawr o bob diwrnod tra’n derbyn bod marwolaeth yn anorfod, er mwyn ein hunain a’r rhai sy’n annwyl i ni.”
Er mwyn cychwyn ar eich taith i greu Cynllun Gofal o Flaen Llaw cliciwch yma.