Rydym wedi darparu rhai cysylltiadau i dempledi gwag all fod yn ddefnyddiol pan rydych yn meddwl am ac yn cofnodi eich cynllun gofal o flaen llaw. Gallwch eu llawrlwytho o’r gwefannau isod ar gyfer eich defnydd.
Mae yna dempledi ar gyfer:
- Cynllunio Gofal o Flaen Llaw
- Datganiad o Flaen Llaw
- Penderfyniad o Flaen Llaw i Wrthod Triniaeth
Cynllunio Gofal o Flaen Llaw
Dyma nifer o lyfrynnau gyda thempledi sydd yn amrywio mewn maint a manylder. Mae yma dempledi gwag ac un neu ddau o rai byr wedi eu llenwi’n barod er mwyn eich helpu.
Nid yw’r ffurflenni wedi cael eu cynlllunio i gael eu llewni ar un eisteddiad. Mae rhai yn cyfeirio at Ddatganiadau o Flaen Llaw, Penderfyniad o Flaen Llaw i Wrthod Triniaeth a Phŵer Atwrnai Parhaol.
Dyma rai dywediadau all fod o help i chi:
‘Buaswn yn dymuno cael gofal gartref os yn bosib’
‘Ni fuaswn yn dumuno cael fy mhlant yn gofalu amdanaf’
‘Buaswn yn dymuno cael gofal trwy gyfrwng y Gymraeg’
Grŵp Comisiynu Clinigol GIG Swydd Caerloyw – Cewch dempled gwag yma
Cewch dempled gwag yma
Hosbis St Helena, Colchester – Cewch dempled gwag yma
Grŵp Comisiynu Clinigol Dorset – Cewch dempled gwag yma
Sefydliad Paul Sartori – Dyma rhai enghreifftiau o Gynlluniau Gofal o Flaen Llaw syml sydd yn canolbwyntio yn bennaf ar ddatganiadau o flaen llaw ynglŷn â dymuniadau a dewisiadau gofal all fod o help i chi feddwl am yr hyn y buasech yn hoffi ei gynnwys yn eich cynllun chi.
Ann Other esiampl wedi ei gwblhau
Jean Brodie esiampl wedi ei gwblhau
Templedi Datganiadau o Flaen Llaw
- Fframwaith Safon Aur – Meddwl o Flaen Llaw
- Macmillan – Preferred Priorities for Care / Macmillan – Blaenoriaethau Dewisol am Ofal
- Sefydliad Paul Sartori – gwelwch y linc dan y penawd ‘cynllunio gofal o flaen llaw’.
Templedi Penderfyniad o Flaen Llaw i Wrthod Triniaeth (PoFLli WT) Gofal Canser Macmillan
Gofal Canser Macmillan – PoFLliWT Mae yna dempled gwag ar dudalen 17 a thempled wedi ei gwblhau ar dudalen 18.
Cymdeithas Niwronau Motor – PoFLliWT. Mae yn a dempled gwag yn cychwyn ar dudalen 24 gyda enghraifft wedi ei chwblhau ar dudalen 17.
Cynlllun Cryno Awgrymedig ar gyfer Gofal Brys a Thriniaeth (ReSPECT)
Mae hwn yn cael ei ledaenu trwy rwydwaith o gymunedau iechyd a gofal fydd yn mabwysiadu a gweithredu y broses dros gyfnodau gwahanol yn ôl amgylchiadau lleol a rhanbarthol.
Gallwch lawrlwytho rhagor o wybodaeth am y broses ReSPECT isod. Unwaith y bydd ReSPECT wedi cael ei fabwysiadu a’i gyflwyno yn eich ardal, bydd eich tîm gofal iechyd lleol yn gallu rhoi arweiniad pellach i chi.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chwblhau PoFLliWT am ddim ar lein ar Fy Mhenderfyniadau