Meddwl, trafod, penderfynu, datgan, rhannu ac adolygu
Gall fod yn haws nag yr ydych yn ei gredu i gynllunio gofal o flaen llaw trwy ystyried y broses fel nifer o gamau neu swigod sydd wedi eu cysylltu, y naill wrth y llall, ond nid yn ddibynol ar ei gilydd. Er engrhaifft, efallai eich bod wedi bod yn ystyried cynllunio gofal o flaen llaw ond angen ambell syniad am sut i drafod hyn efo’r teulu a’r rhai sydd yn annwyl i chi.
Gallwn eich helpu efo’r siwrne i gynllunio Cynllun Gofal o Flaen Llaw ar unrhyw adeg o’r daith. Yn syml, cliciwch ar y linc isod sydd yn disgrifio eich sefyllfa orau.